Theresa May Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Fe fydd Theresa May yn herio cymdeithas i “esbonio neu newid” y gwahaniaethau sylweddol mewn cyrhaeddiad bywyd lleiafrifoedd ethnig gwledydd Prydain a phobl croenwyn, sy’n cael eu datgelu yn astudiaeth anghydraddoldeb hiliol y Llywodraeth.

Fe fydd y Prif Weinidog yn dweud wrth lywodraeth, busnes, yr heddlu a sefydliadau eraill bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau nad yw hil person yn eu rhwystro rhag cyflawni eu dyheadau mewn bywyd.

Mae disgwyl i ganfyddiadau’r astudiaeth, a  fydd yn cael eu cyhoeddi am 12.30 heddiw, ddangos sut mae pobl o wahanol gefndiroedd ethnig yn cael eu trin ym meysydd iechyd, addysg, cyflogaeth a’r system gyfiawnder.

Fe fydd Theresa May yn dweud bod yr astudiaeth yn golygu “nad oes unrhyw le i guddio” i lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.