Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae’r Prif Weinidog yn wynebu galwadau  i roi’r sac i Boris Johnson a Philip Hammond mewn ymdrech i gryfhau ei hawdurdod dros y Blaid Geidwadol.

Mae yna ddyfalu y bydd Theresa May yn ad-drefnu ei Chabinet gyda phwysau’n cynyddu arni i ddiswyddo un ai’r Canghellor neu’r Ysgrifennydd Tramor.

Ond mae cyn-weinidog y Cabinet Stephen Crabb, AS Preseli a Sir Benfro, wedi rhybuddio Theresa May i beidio rhuthro i ad-drefnu ei Chabinet gan ddweud y byddai diswyddo Boris Johnson yn arwain at golli aelod blaenllaw o’i thîm.

Mae honiadau bod Boris Johnson yn ystyried herio’r Prif Weinidog am arweinyddiaeth y blaid ond mae e’n mynnu ei fod yn cefnogi Theresa May.