Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi dweud na fydd hi’n “cuddio”, wrth i adroddiadau awgrymu ei bod hi’n paratoi i ad-drefnu ei Chabinet.

Mae hi dan gryn bwysau yn dilyn perfformiad siomedig wrth draddodi araith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yr wythnos ddiwethaf. Ac fe aeth y digrifwr Lee Nelson i’r llwyfan i roi ‘P45’ iddi cyn cael ei dywys i ffwrdd.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson wedi annog y blaid i gefnogi’r arweinydd, ond mae e’n cydnabod fod adegau pan fo Aelodau Seneddol wedi wfftio’r Prif Weinidog cyn cynnig ei helpu.

Mae’r cyn-Brif Weinidog John Major wedi beirniadu agweddau hunanol nifer o Geidwadwyr sydd wedi’u hysgogi gan “eu hagenda eu hunain”.

Dyfodol Boris Johnson

Mae Theresa May yn cael ei holi’n gyson am ddyfodol Boris Johnson, un sy’n cael ei ystyried yn olynydd posib iddi.

Ac mi gyfaddefodd fod y Gweinidog Tramor yn “her” ond na fyddai hi’n cuddio.

“Fi yw’r Prif Weinidog, a rhan o’m swydd yw sicrhau bod gen i’r bobol orau yn fy Nghabinet, gwneud y mwyaf o’r llu o ddoniau sydd ar gael i fi yn y blaid.”

Gwadu llefain

Mae Theresa May wedi gwadu iddi lefain ar ôl yr araith sydd wedi ennyn cryn sylw dros yr wythnos ddiwethaf, ac mae hi wedi beirniadu’r cyfryngau am y ffordd mae hi wedi cael ei phortreadu.

“Un funud, mae newyddiadurwyr yn fy nghyhuddo i o fod yn rhewllyd neu’n robotaidd, ac yna maen nhw’n honni ’mod i’n ddynes sy’n wylo ac sydd angen noson dda o gwsg.

“Y gwir amdani yw y gall fy nheimladau gael eu brifo, fel pawb arall, ond dw i’n eithaf gwydn.”

Ond gwadodd hi ei bod hi’n rhywun sy’n “rhoi’r gorau iddi”.