Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae Boris Johnson wedi canmol Theresa May wrth iddo annerch cynhadledd y Ceidwadwyr, gan fynnu bod y Cabinet yn “unedig” ar Brexit.

Bu’r Ysgrifennydd Tramor yn canmol y Prif Weinidog wrth annerch aelodau’r blaid ym Manceinion.

Mae penderfyniad Boris Johnson i osod ei delerau ei hun ar Brexit wedi taflu cysgod dros y gynhadledd ac wedi arwain at alwadau ar Theresa May i’w ddiswyddo o’i Chabinet.

Ond heddiw, dywedodd Boris Johnson y byddai Theresa May yn sicrhau “cytundeb Brexit gwych” a bod y Cabinet yn unedig.

Roedd rhai wedi dyfalu y byddai’n defnyddio ei araith i wanhau awdurdod Theresa May gyda dyfalu ei fod a’i fryd ar fod yn arweinydd nesaf y blaid.