(lun: PA)
Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn bwysicach yng ngolwg y mwyafrif llethol o bleidleisiodd dros Brexit yn Lloegr nag yw cadw undod Prydain a dyfodol heddwch yn Iwerddon.

Yn ôl ymchwil gan Brifysgolion Caerdydd a Chaeredin, mae 88% o gefnogwyr Brexit Lloegr o’r farn y byddai ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn bris derbyniol i’w dalu am adael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai 81% hefyd yn fodlon gweld y broses heddwch yn cael ei hansefydlogi yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fydd canfyddiadau’r arolwg yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod ymylol yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion yfory.

Mae’r canrannau hyn yn uwch fyth ymysg y pleidleiswyr Brexit sy’n cefnogi’r Torïaid, gyda 92% yn fodlon derbyn yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth, ac 87% yn fodlon peryglu heddwch Gogledd Iwerddon.

Wrth drafod canfyddiadau’r ymchwil, meddai’r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd:

“Am dros ganrif, y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yw’r blaid sydd wedi bod fwyaf cysylltiedig ag amddiffyn undod y Deyrnas Unedig.

“Ond gyda chyfran uchel o gefnogwyr y blaid yn barod i aberthu’r Undeb i ‘adennill rheolaeth’, efallai ei bod yn bryd gofyn a yw’r blaid yn dal i yn driw i’w henw.”