Ddiwrnod yn unig cyn dechrau cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion, mae pwysau o’r newydd ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May tros Brexit.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson yn mynnu na all y cyfnod trosglwyddo bara “eiliad yn hirach” na dwy flynedd.

Ac mae rhai o fewn y blaid yn honni y dylai’r Llywodraeth gerdded i ffwrdd o’r trafodaethau pe na baen nhw’n fwy llwyddiannus erbyn y Nadolig.

Yn ôl Boris Johnson, ni ddylai Prydain orfod cadw at reolau Ewropeaidd newydd sy’n cael eu cyflwyno o fewn y cyfnod trosglwyddo, ac na ddylai taliadau gael eu gwneud i Frwsel ar ôl hynny.

Ond mae e wedi gwadu ei fod e’n rhoi pwysau ar Theresa May er mwyn mynd am ei swydd fel arweinydd y Ceidwadwyr.

Dywedodd wrth bapur newydd The Sun ei fod e’n “ddiamynedd” ynghylch Brexit.

Llythyr

Daw sylwadau Boris Johnson ar ôl i lythyr gael ei anfon at Theresa May gan aelodau seneddol Ceidwadol a dynion busnes sydd o blaid Brexit yn galw am symud at reolau Sefydliad Masnach y Byd yn 2019 pe na bai’r trafodaethau’n edrych yn obeithiol erbyn Nadolig eleni.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, David Jones.

‘Pobol ddifrifol’

Yn y cyfamser, mae arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson wedi galw am “bobol ddifrifol” i fod yn gyfrifol am Brexit.

Ac mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn wedi cyhuddo Boris Johnson o greu sefyllfa lle gallai rhyfel fasnach gyda’r Undeb Ewropeaidd ddigwydd.

Dywedodd: “Alla i ddim dychmygu sut beth yw eistedd o amgylch bwrdd gyda’r tîm sy’n trafod Brexit oherwydd mae tri neu bedwar o bobol a chanddyn nhw dri neu bedwar safbwynt gwahanol.”

Ychwanegodd fod angen “perthynas ddifrifol fel oedolion” gydag Ewrop.

Tanseilio trafodaethau

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Vince Cable wedi cyhuddo Boris Johnson o danseilio Brexit wrth ymyrryd.

Mae ei safbwynt yn “anfon arwydd ofnadwy” i’r rhai sy’n trafod Brexit oedd yn meddwl y bydden nhw’n trafod â Theresa May ac Ysgrifennydd Brexit, David Davis.

Fe gyhuddodd arweinwyr y blaid o “fethu â chyd-dynnu er lles y genedl” ac o “weithredu ar sail uchelgais personol hunanol”.

Arweinyddiaeth

Mae’r sefyllfa wedi codi pryderon am arweinyddiaeth Theresa May ar drothwy’r gynhadledd flynyddol.

Mae hi wedi cyhuddo Llafur o fod yn “anaddas i lywodraethu” er i’w phlaid ei hun gael etholiad cyffredinol siomedig.

Serch hynny, mae hi wedi cael cefnogaeth yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling, sy’n mynnu bod y blaid yn unedig.