Mae Llafur yr Alban yn galw ar eu cydweithwyr yn Lloegr, gan gynnwys yr arweinydd Jeremy Corbyn, i gefnogi eu galwad am ffederaleiddio’r Deyrnas Unedig, yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd The Scotsman.

Yn ôl eu cynlluniau, byddai llywodraethau’r gwledydd unigol yn gyfrifol am lunio’u polisi mewnfudo eu hunain.

Yn ôl nifer o fewn y blaid yn yr Alban, mae Aelodau Seneddol y blaid yn yr Alban yn barod i gefnogi’r cynlluniau.

Ond mae angen cefnogaeth y blaid yn Lloegr, sy’n draddodiadol yn gwrthwynebu unrhyw fath o ddiwygio ar y cyfansoddiad.

Yn ôl rhai, mae’r blaid yn yr Alban yn hyderus y gallan nhw berswadio Jeremy Corbyn i gefnogi’r newid yn y cyfansoddiad, er eu bod yn llai hyderus o ran datganoli polisi ar fewnfudo.

‘Ffederaleiddio heb gydio i’r de o’r ffin’

Dywedodd un aelod seneddol Llafur yn yr Alban: “Ry’n ni’n gwybod fod cryn dipyn o waith i’w wneud gan nad yw ffederaleiddio wedi cydio yn nychymyg y bobol i’r de o’r ffin. Ond ry’n ni’n credu mai dyma’r ffordd ymlaen.”

Cyn i Kezia Dugdale roi’r gorau i’r arweinyddiaeth, roedd hi wedi galw am Ddeddf Uno newydd er mwyn sicrhau hawliau newydd o ran yr isafswm cyflog a hawliau yn y gweithle.

Roedd Llafur yr Alban wedi galw’n gynharach eleni am Gonfensiwn Cyfansoddiadol y Bobol ond fe ddaeth y cynlluniau i ben am y tro oherwydd yr etholiad cyffredinol brys.

Mae pryderon bellach, mae’n debyg, ynghylch pwy fyddai’n arwain y fath gynllun a gafodd ei grybwyll gyntaf gan Ed Miliband adeg refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Diwygio cyfansoddiadol

Yn ei araith yng nghynhadledd y blaid yn Brighton ddechrau’r wythnos, galwodd arweinydd dros dro Llafur yr Alban, Alex Rowley am ddiwygio’r cyfansoddiad.

Dywedodd y dylai’r Blaid Lafur ymrwymo i’r cynllun gan sicrhau bod yr Alban yn “bartner llawn a chydradd”.

Mae lle i gredu bod un o’r darpar-ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Llafur yr Alban, Richard Leonard yn gryf o blaid ffederaleiddio.

Fe fu Kezia Dugdale yn galw ers tro am ddemocrateiddio Tŷ’r Arglwyddi mewn modd ffederal, y tu allan i Lundain ac o bosib yn Glasgow.

Roedd rhai aelodau blaenllaw wedi cefnogi’r alwad, gan gynnwys y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown a Maer Llundain, Sadiq Khan.