Mae’r BBC wedi ymateb i feirniadaeth gan Archesgob Caergaint am y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â sgandal Jimmy Savile.

Yn ôl y Gwir Barchedig Justin Welby, dyw e ddim wedi gweld yr un “gonestrwydd” yn ystod yr ymchwiliad i honiadau o droseddau rhyw ag y mae e wedi’i weld o fewn yr Eglwysi Catholig ac Anglicanaidd, meddai.

Fe ddaeth ei sylwadau yn ystod cyfweliad â rhaglen Today ar BBC Radio 4 wrth fyfyrio ar newidiadau cymdeithasol dros y 60 o flynyddoedd diwethaf.

Yn ôl y BBC, dywedodd: “Dw i’n credu ein bod ni’n gymdeithas fwy caredig, yn ymwneud mwy â’n methiannau ein hunain, yn fwy bodlon bod yn onest o ran lle’r ydyn ni’n mynd o’i le.

“O fewn y rhan fwyaf o’n sefydliadau, mae yna fannau tywyll o hyd.”

Ychwanegodd wedyn fod y BBC “yn un ohonyn nhw”.

“Dw i ddim wedi gweld yr un gonestrwydd ynghylch methiannau’r BBC tros Savile ag ydw i yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yn Eglwys Loegr, mewn sefydliadau cyhoeddus eraill o ran camdrin.

“Mae’n bosib y cawn ein profi’n anghywir am hynny, ond mae hynny’n un o’r llefydd.”

Ymateb y BBC

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC nad yw’r Gorfforaeth yn “adnabod” disgrifiad Archesgob Caergaint ohonyn nhw, gan ychwanegu bod ymchwiliad wedi cael ei gyhoeddi pan ddaeth yr honiadau i’r amlwg am y tro cyntaf.

Dywedodd y llefarydd fod canlyniadau’r ymchwiliad wedi cael eu cyhoeddi’n llawn.

“A thra fod y BBC yn lle gwahanol, fe amlinellon nhw gamau clir iawn i sicrhau’r safonau uchaf posibl er mwyn diogelu plant.”

Ymchwiliad

Yn 2016, cafodd ymchwiliad ei gyhoeddi dan ofal y Fonesig Janet Smith, ar ôl i’r BBC adnabod 72 o ddioddefwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Archesgob Caergaint fod Eglwys Loegr yn “derbyn” ei methiannau wrth ddiogelu plant.

Mae gan Eglwys Loegr dîm diogelu plant ers 2015, ac fe ddywedodd y llefarydd fod polisïau cadarn yn eu lle erbyn hyn.

“Mae’r Archesgob yn credu bod angen ymestyn y lefel yma o ymateb a hunanymchwilio i bob sefydliad, gan gynnwys y BBC.”