Y Taoiseach Leo Varadkar
Mae disgwyl i Iwerddon gynnal refferendwm ar erthylu ymhen dwy flynedd, yn ôl y Taoiseach Leo Varadkar.
Ar hyn o bryd, mae Wythfed Gwelliant i’r Cyfansoddiad yn dweud bod hawliau’r fam a’r babi’n gydradd.
Ond fe fu’n destun anghytuno ers blynyddoedd, wrth i gefnogwyr sydd o blaid yr hawl i ddewis fynnu bod y Gwelliant yn cael ei ddiddymu, a chefnogwyr o blaid bywyd yn mynnu y dylid ei gadw.
Y refferendwm
Mae Leo Varadkar wedi amlinellu’r amserlen ar gyfer y refferendwm hwn, sydd i’w gynnal fis Mehefin nesaf, a nifer o bleidleisiau eraill.
Ym mis Mehefin 2019, fe fydd y Gwyddelod yn cael y cyfle i benderfynu a ddylid ymestyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau arlywyddol i Wyddelod sy’n byw y tu allan i Iwerddon, gan gynnwys Gogledd Iwerddon.
Ymhlith y materion eraill dan sylw fydd cyfreithiau ysgaru a gostwng yr oedran pleidleisio i 16.
Fe fydd refferenda ar gabledd a rôl mamau sy’n aros gartref yn cael eu cynnal fis Hydref nesaf, ynghyd ag ethol meiri dinesig.
Bydd pob refferendwm yn ddibynnol ar basio Mesurau yn Senedd Iwerddon a chadarnhau dyddiadau eu cynnal.
Addasu’r Cyfansoddiad
Wrth egluro’r drefn cyn bod modd newid y Cyfansoddiad, dywedodd Leo Varadkar fod “unrhyw welliant i’n Cyfansoddiad yn galw am ystyriaeth ofalus gan y bobol”.
“Dylid rhoi digon o amser iddyn nhw ystyried y materion ac i gymryd rhan mewn dadl gyhoeddus ddeallus.
“Bydd gosod amserlen ar gyfer y refferenda sydd i’w cynnal dros y ddwy flynedd nesaf yn galluogi pawb sydd ynghlwm wrth ymgyrchu ar y materion i gynllunio ymlaen llaw ac i hwyluso’r ddadl gyhoeddus honno.”
Mae adroddiad gan drigolion Iwerddon ar yr Wythfed Gwelliant i’r Cyfansoddiad yn cael ei ystyried gan bwyllgor seneddol ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i’r pwyllgor hwnnw adrodd yn ôl cyn diwedd y flwyddyn, cyn y bydd geiriad y refferendwm yn cael ei dderbyn yn ffurfiol.