Mae Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Davis wedi wfftio adroddiadau y bydd yn costio £40 biliwn i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw ei sylwadau ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May ddweud ei bod hi’n dymuno cael dwy flynedd i gwblhau’r cyfan ar ôl gadael yn ffurfiol yn 2019, ac y byddai’r Deyrnas Unedig yn talu £10 biliwn y flwyddyn rhwng nawr a 2019.

Mae Brwsel yn mynnu y bydd y ffigwr yn uwch o roi ystyriaeth i gostau eraill, gan gynnwys pensiynau, ond mae Llywodraeth Prydain wedi wfftio hynny fel ffigwr sydd wedi cael ei “greu”.

Dywedodd David Davis wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Mae pethau fel pensiynau a phethau eraill yn ddadleuol, a dweud y lleiaf.

“Y tro diwethaf, aethon ni drwy’r cyfan fesul llinell a herio tipyn o sail cyfreithiol y pethau hyn a byddwn ni’n parhau i wneud hynny.

“Dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni am weld ein cynghreiriaid a’n ffrindiau yn Ewrop o dan anfantais sylweddol dros y blynyddoedd nesaf, a dyna’r ydyn ni’n anelu i osgoi ei wneud.”

O gael ei holi am erthygl yn y Times, sy’n dweud mai £40 biliwn fyddai cost Brexit, ychwanegodd David Davis: “Mae hynny, i raddau, wedi cael ei greu hefyd.”

“Dw i ddim yn mynd i roi ffigwr ar yr awyr, byddai’n warthus gwneud hynny, ond mae gyda ni syniad go dda o ran lle’r ydyn ni’n mynd gyda hyn i gyd.”

Theresa May

Ddydd Gwener, dywedodd Theresa May mewn araith na fyddai aelodau’r Undeb Ewropeaidd yn colli arian o ganlyniad i Brexit yn ystod y cyfnod presennol hyd at 2020.

Ond mae tensiynau yn nes at adref yn dilyn adroddiadau yn y Sunday Telegraph fod yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson am gael sicrwydd na fyddai Prydain yn mabwysiadu rheolau Ewropeaidd newydd cyn Brexit.

Dywedodd David Davis y byddai’r drefn bresennol mewn grym tan bod Brexit wedi cael ei gwblhau. Ni fydd Prydain, meddai, o dan awdurdod Llys Cyfiawnder Ewrop ar ôl hynny.

Yn ei haraith, dywedodd Theresa May y byddai trigolion yr Undeb Ewropeaidd yn cael dod i wledydd Prydain i fyw a gweithio yn ystod y cyfnod trosglwyddo hyd at 2019, ond y byddai’n rhaid iddyn nhw gofrestru.

Dywedodd hi y byddai eu hawliau’n dod yn rhan o gyfraith Prydain.

Llys Cyfiawnder Ewrop

Ond mae David Davis yn mynnu na fydd trigolion yr Undeb Ewropeaidd yn gallu troi at Lys Cyfiawnder Ewrop i fynnu eu hawliau, fel y mae’r Undeb Ewropeaidd yn mynnu y bydd modd iddyn nhw wneud.

“Dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd,” meddai. “Y nod o ran y cytundeb i dynnu allan yw cael trigolion Prydeinig yn Ewrop a thrigolion Ewropeaidd ym Mhrydain yn cael eu trin yn debyg ar y cyfan.

“Dydyn ni ddim, o dan unrhyw amgylchiadau, yn mynd i dderbyn goruchafiaeth Llys Ewrop. Mae hynny’n mynd i fynd.”