Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mewn rali ar drothwy cynhadledd Llafur heno, dywedodd Jeremy Corbyn mai dim ond cychwyn y mae’r gwaith o drawsnewid y blaid o dan ei arweiniad.

Fe fydd ei gynlluniau i roi mwy o rym i aelodau cyffredin yn “agor ein plaid o’i bôn i’w brig”, meddai, ac yn helpu cael gwared ar Theresa May a mynd i’r afael  ag “anghydraddoldeb ac anghyfiawnder” ym Mhrydain.

Dywedodd fod yn rhaid i Lafur fod yn barod i ffurfio llywodraeth “pryd bynnag y caiff yr etholiad nesaf ei alw” – gan awgrymu nad yw’n disgwyl i weinyddiaeth Theresa May barhau tan 2022.

“Fe wnaeth yr etholiad ym mis Mehefin ddangos syched am newid gwirioneddol ar draws Prydain,” meddai.

“Mae gennym bellach y siawns i drawsnewid ein gwlad. I wneud hynny rhaid inni ddefnyddio’n nerth y tu fewn i’r senedd a’r tu allan i herio’r Ceidwadwyr ar bob cam.”

Adolygiad

Daw ei sylwadau ar ôl i bwyllgor gwaith Llafur awdurdodi adolygiad o ddemocratiaeth fewnol y blaid, rhywbeth a fydd yn ei thrawsnewid yn ei farn ef.

“Am y tro cyntaf, rydym yn rhoi grym yn ôl i’n haelodau,” meddai.

“Nid rhyw arbenigedd technegol i’r elît yw gwleidyddiaeth, ond ffordd o’n cael ni i gyd at ein gilydd i benderfynu ein dyfodol.

“Dyna pam rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Mae hon yn gynhadledd go-iawn lle mae penderfyniadau’n cyfrif.

“Dim ond dechrau mae’r gwaith o drawsnewid Llafur.”