Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn dweud wrth arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd bod cyfrifoldeb ar bob gwlad i sicrhau Brexit “didrafferth”.

Bydd Theresa May yn galw am “ddychymyg a chreadigrwydd” er mwyn sefydlu’r berthynas newydd rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb, ac mae disgwyl iddi roi gwell syniad o’i syniadau am y drefn o hyn ymlaen.

Ond mae’r dadlau mewnol wedi dechrau eisoes o fewn y Blaid Geidwadol wrth i rai adroddiadau awgrymu bod y Prif Weinidog yn ystyried talu £17.6bn er mwyn diogelu cytundebau masnach ag Ewrop am gyfnod o ddwy flynedd wedi i Brydain adael yr Undeb.

Mae hefyd yn bosib bod Theresa May yn ystyried cyfaddawdu o ran mater hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig.

Newid “didrafferth”

“Dw i’n credu ein bod yn rhannu ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb i sicrhau bod y newid yma yn digwydd yn ddidrafferth ac yn gall,” bydd Theresa May yn dweud mewn uch-gynhadledd yn Fflorens yn yr Eidal.

“Mae llygaid y byd arnom ni, ond os gallwn ddefnyddio ein dychymyg a chreadigrwydd er mwyn sefydlu’r berthynas newydd yma … credaf y gallwn fod yn optimistaidd am ein dyfodol.”