Yn ôl sylwebydd gwleidyddol, bu gwleidyddion y Cynulliad yn canolbwyntio yn ormodol ar faterion y cyfansoddiad yn hytrach na delifro gwasanaethau i bobol Cymru.

Mae Gareth Hughes yn siarad gyda golwg360 mewn podlediad ar wleidyddiaeth Cymru sy’n edrych yn ôl ar 20 mlynedd ers i bobol Cymru pleidleisio o drwch blewyn i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol.

Mae angen rhoi stop ar ddadlau am fwy o bwerau, meddai, gan ganolbwyntio ar y pwerau sydd gan y Cynulliad eisoes, a’u defnyddio nhw.

Mae Owain Phillips, gohebydd gwleidyddol ITV Cymru, yn trafod ar y podlediad hefyd, gan ddweud bod angen i Aelodau Cynulliad brofi eu gwerth cyn gallu dadlau am fwy o Aelodau wrth i ddatganoli datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

Yn y recordiad, mae Mared Ifan o golwg360 yn edrych yn ôl ar hanes datganoli gyda Gareth Hughes ac Owain Phillips ac yn trafod beth nesa’ i’r Cynulliad wrth i bwerau ar drethi gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.