Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi mynnu na fydd yn ymddiswyddo ac wedi wfftio awgrymiadau bod y Cabinet yn rhanedig dros Brexit.

“Llywodraeth sydd yn cydweithio ydyn ni,” meddai wrth newyddiadurwyr wedi iddo gael ei holi am Ewrop, gan nodi eu bod fel “nyth o adar yn canu.”

Daeth ei sylwadau yn sgil adroddiadau y byddai’n ymddiswyddo oherwydd anghydweld â’r Prif Weinidog, Theresa May, dros gynnwys cytundeb Brexit.

Hefyd mae sïon ar led bod cyhoeddi erthygl gan Boris Johnson ym mhapur y Daily Telegraph  wedi creu rhwyg rhwng haenau uchaf y Llywodraeth.

Araith

Bydd Theresa May yn traddodi araith yn yr Eidal ddydd Gwener lle mae disgwyl iddi gynnig diweddariad pwysig ynglŷn â safiad y Deyrnas Unedig o ran cytundeb Brexit.

Un posibiliad yw y bydd hi’n cynnig talu degau o filiynau o bunnoedd i’r Undeb Ewropeaidd fel rhan o gytundeb fyddai ar waith yn ystod y tair blynedd wedi i Brydain adael yr undeb.