Carwyn Jones a Nicola Sturgeon ym mis Awst eleni (Llun: PA)
Mae Llywodraeth Cymru ar y cyd â Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi gwelliannau i’r Mesur Brexit – bil a fydd yn dod a phwerau yn ôl i Brydain wedi Brexit.

Mewn llythyr i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, mae arweinyddion y ddwy wlad yn nodi na fyddan nhw’n cefnogi’r ddeddfwriaeth tan y bydd yn cael ei newid.

“Bydd yn rhaid newid y Mesur presennol cryn dipyn cyn ein bod yn medru argymell i’n seneddau i roi eu cydsyniad iddo,” meddai Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon a Carwyn Jones yn y llythyr.

Nod y newidiadau yw atal y Deyrnas Unedig rhag cymryd rheolaeth dros feysydd polisi sydd wedi eu datganoli, pan fydd pwerau yn dychwelyd i Brydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r ddau arweinydd wedi galw’r Mesur Brexit yn ymgais i “grafangu am bŵer”.

“Gwarchod buddiannau”

“Rydyn ni am weld Bil sy’n gweithio gyda’r broses ddatganoli, nid yn ei herbyn,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. “Nes cyrraedd y sefyllfa honno, does dim modd i ni gydsynio i’r Mesur.”

“Dydi’r gwelliannau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn ddim i’w wneud ag atal Brexit. Y bwriad yw gwarchod buddiannau pobl Cymru a’r Alban. Gobeithio y byddan nhw’n ennyn cefnogaeth eang ar draws Tŷ’r Cyffredin.

“Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gweld newid sylweddol o heddiw ymlaen yn y ffordd y mae’n Llywodraethau’n cydweithio ar Brexit. Drwy wrando ar ein gilydd, gallwn ni ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n diogelu buddiannau pob rhan o’r Undeb.”