Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi’i wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad am “dorri rheolau” o ran “ymddygiad Aelodau Cynulliad a chynrychiolwyr y blaid.”

Mae Plaid Cymru wedi cynnal ymchwiliad mewnol i gwynion yn ei erbyn yn ddiweddar, a heddiw fe gadarnhaodd Arweinydd y blaid, Leanne Wood, eu bod wedi “cymryd y penderfyniad anodd” i’w wahardd o’r grŵp.

Mewn llythyr at Aelodau Cynulliad mae Leanne Wood yn nodi iddo “dorri’r rheolau yr oedd ef a phob aelod o’r Grŵp wedi cytuno iddynt mewn perthynas ag ymddygiad disgwyliedig ACau a chynrychiolwyr y Blaid.”

“Mae’r ffaith iddo dorri nifer o Reolau Sefydlog y Grŵp Cynulliad ac ein Cod Ymddygiad wedi achosi aflonyddwch.”

“Fel yr Arweinydd ni allaf ganiatáu i aelodau etholedig ymddwyn mewn ffordd sydd yn niweidiol i’r Blaid,” meddai yn ei llythyr.

‘Tanseilio’

Dyma’r eildro i Neil McEvoy gael ei wahardd o’r grŵp a hynny wedi iddo gael ei wahardd dros dro ym mis Mawrth eleni.

Ychwanegodd Leanne Wood yn ei llythyr fod ganddi ddyletswydd i “beidio caniatáu ymddygiad sy’n tanseilio ei undod a’i hygrededd [y blaid]”.

“Mae undod a pharch o fewn y Grŵp yn ffactorau hanfodol os ydym am wneud y gwaith hwn yn llwyddiannus gan gyflawni ein dyletswydd i bobl Cymru. Ond mae’n wir fod y misoedd diwethaf wedi gweld y gwerthoedd hynny’n cael eu tanseilio,” meddai.

‘Gofyn cwestiynau lletchwith’

Mae Neil McEvoy wedi dweud na all wneud sylw am y rhesymau dros y gwaharddiad gan ychwanegu nad yw’n gwybod am ba hir y bydd yn para.

“I fi, mae’n busnes fel arfer, dw i wedi cael fy ethol i ddal y Llywodraeth i gyfrif, dyna be’ dw i’n mynd i barhau i wneud a does dim wedi newid,” meddai.

“Dw i’n ymwybodol bod pobol yn pleidleisio amdana’ i achos dw i’n gofyn cwestiynau lletchwith a dydy hynny ddim yn mynd i stopio.”