Mae Aelod o Senedd Ewrop Plaid Cymru wedi beirniadu ymgais Llywodraeth Sbaen i geisio atal refferendwm ar annibyniaeth i Gatalwnia.

Daw hyn wrth i Jill Evans gyd-lofnodi cwestiwn i’r Comisiwn Ewropeaidd yn condemnio ymddygiad llywodraeth Sbaen yn dilyn adroddiadau fod erlynydd cyffredinol wedi bygwth achosion llys i gannoedd o Feiri yng Nghatalwnia os byddant yn cefnogi cynnal y refferendwm.

Mae’r llythyr yn gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd “ystyried y materion hyn ar frys, yn enwedig y bygythiadau yn erbyn swyddogion etholedig.”

‘Gwarthus’

Fe ddaeth hi i’r amlwg ddoe fod llu heddlu parafilwrol Sbaen wedi cymryd 1.3 miliwn o bosteri a phamffledi i lawr sy’n hybu refferendwm annibyniaeth Catalwnia.

“Mae bygwth swyddogion etholedig gyda chael eu harestio am amddiffyn penderfyniad democrataidd i gynnal refferendwm yn warthus,” meddai Jill Evans yn ei datganiad.

“Ymddengys fod llywodraeth Sbaen yn benderfynol o amharu ar refferendwm democrataidd trwy fygythiad,” meddai.

“Mae gan y llywodraeth ymrwymiadau fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd i barchu penderfyniadau democrataidd a hawliau sylfaenol dinasyddion yr UE.”

Fe fydd Jill Evans yn rhan o’r ddirprwyaeth swyddogol fydd yn arsylwi’r refferendwm, ac mae disgwyl i’r refferendwm gael ei chynnal ar Hydref 1 eleni.