Carwyn Jones (Llun: Y Blaid Lafur)
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cyhoeddi heddiw fod Comisiwn newydd ar Gyfiawnder yn cael ei sefydlu a fydd yn “adlewyrchu anghenion Cymru”.

Bydd y Comisiwn yn adolygu’r system gyfiawnder a phlismona yng Nghymru, gan ystyried sut y gallai’r system sicrhau canlyniadau gwell, meddai Llywodraeth Cymru.

Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd fydd Cadeirydd y Comisiwn pan fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ym mis Hydref.

Bydd y Comisiwn yn ymdrin â’r busnes heb ei orffen sy’n deillio o Gomisiwn Silk, a wnaeth nifer o argymhellion, ar gyfer y maes cyfiawnder – gan gynnwys y llysoedd, y gwasanaeth prawf, carchardai, a chyfiawnder ieuenctid.

Bydd hefyd yn rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud ag awdurdodaeth gyfreithiol a’r heriau sy’n wynebu’r sector gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru.

“System gyfiawnder unigryw”
Dywedodd Carwyn Jones: “Rydyn ni wedi cael deddfwrfa ar wahân yng Nghymru ers chwe blynedd, ond hyd yma nid oes gennym ein hawdurdodaeth ni ein hunain. Drwy sefydlu’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, rydyn ni’n cymryd y cam pwysig cyntaf tuag at ddatblygu system gyfiawnder unigryw a fydd yn adlewyrchu anghenion Cymru.

“Bydd y Comisiwn yn ystyried sut y gallwn ni wneud pethau’n wahanol yng Nghymru, gan nodi’r opsiynau ar gyfer datblygu ein system gyfiawnder ein hunain, a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl Cymru gael mynediad at gyfiawnder, yn ogystal â gostwng nifer y troseddau a hybu’r broses adsefydlu.”

“Atebion newydd i’r heriau cymhleth”

Dywedodd yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd: “Dw i’n hynod falch o gael y cyfle i fynd i’r afael â’r her hon…

“Fel awdurdodaeth fach sy’n datblygu, mae Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i gael hyd i atebion newydd i’r heriau cymhleth sy’n wynebu’r system gyfiawnder a’r proffesiwn cyfreithiol.

“Mae’r atebion hyn yn hanfodol i sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol, a dw i’n gobeithio y bydd y Comisiwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gwaith sydd o’n blaenau.”