Boris Johnson a Theresa May Llun: PA
Mae disgwyl i Boris Johnson gynnal cyfarfod â Theresa May am Brexit heddiw, a hynny ar ôl iddo gyhoeddi erthygl yn amlinellu ei weledigaeth ei hun ar y mater.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi’i gyhuddo o “ymyrryd” ar ôl iddo gyhoeddi  erthygl  yn sôn am ei weledigaeth i’r Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n cael ei weld fel her i arweinyddiaeth Theresa May.

Mae wedi cael ei feirniadu gan wleidyddion eraill o fod fel “gyrrwr sedd gefn” wrth gyhoeddi’r erthygl ddyddiau cyn i Theresa May gynnal araith ar Brexit yn Florence.

Efrog Newydd a Chanada

Fe fydd y ddau yn cynnal trafodaethau heddiw wrth i Boris Johnson deithio i Efrog Newydd ar gyfer cynhadledd o’r Cenhedloedd Unedig, a Theresa May yn teithio i Ganada i drafod cytundebau masnach ar ôl Brexit.

Mae disgwyl i gytundeb masnach newydd rhwng Canada â’r Undeb Ewropeaidd gael ei gweithredu ar Fedi 21 gan waredu â 98% o dollau mewnforio Canada, ac mae Stryd Downing wedi’i ddisgrifio yn “fantais sylweddol” i allforwyr y Deyrnas Unedig.