Mae’r tri gwleidydd – Dafydd Wigley, Ron Davies a Peter Hain – yn cytuno mai Brexit yw’r her fawr nesaf i Gymru.

Mae Ron Davies, sydd bellach yn aelod o Blaid Cymru ac yn byw yng Nghaerffili, yn dadlau fod cynnal aelodaeth o’r farchnad Ewropeaidd “mor bwysig i Gymru”.

“O golli hynna neu ddod yn ddioddefwr masnachol o ran rhwystrau tariff, fe fydd hi’n drychinebus i Gymru,” meddai.

Ac wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau fod pwerau Ewrop sy’n faterion wedi’u datganoli “yn dod i Gymru”, yn hytrach na chael eu canoli yn Llundain.

Ychwanegodd ei fod yn dymuno gweld y Cynulliad Cenedlaethol yn cael mwy o bwerau yn y dyfodol i wneud “penderfyniadau sy’n effeithio arnom ni”.

“Fe ddywedais i yn 1997 fod datganoli yn broses,” a dywedodd fod angen pwerau pellach ym meysydd “gofal iechyd a chymdeithasol, cynllunio, cartrefi a defnydd tir.”

‘Brwydro Brexit’

Wrth gyfeirio at Brexit dywedodd Peter Hain wrth golwg360 fod yn rhaid i Gymru “sefyll ar ei thraed a brwydro Brexit”.

“Ni mewn peryg o ddod yn un o’r rhannau sydd wedi’i niweidio mwyaf yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i Brexit,” meddai gan ddweud fod parhau yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn “hollbwysig”.

Ac yn ôl Dafydd Wigley, dylai Llywodraeth Prydain “fabwysiadu egwyddorion y Papur Gwyn” gafodd ei gyflwyno ar y cyd rhwng Leanne Wood a Carwyn Jones yn gynharach eleni.

Dywedodd fod y papur hwnnw yn “hynod o berthnasol” ac mae’n canolbwyntio ar chwe maes gan alw am barhau’n rhan o’r Farchnad Sengl a chyflwyno system fudo yn seiliedig ar swyddi a chyflogaeth.