Ron Davies
Er bod gan Ron Davies “deimlad yn ei galon” am refferendwm 1997, dywedodd mai un peth wnaeth dynnu’r sylw oddi ar yr ymgyrch oedd marwolaeth y Dywysoges Diana.

Dywedodd fod y sgwrs ar garreg y drws wedi newid – “mi oedd pobol mewn sioc am yr hyn ddigwyddodd. Roedd y genedl yn galaru, ond doeddem ni ddim eisiau siarad am hynna.”

“Roedd gennym ni dasg wleidyddol i’w chyflawni, ac roedden ni eisiau i bobol ffocysu ar y strategaeth tymor hir,” meddai.

Jac yr Undeb a’r Ddraig Goch

Cafodd Diana ei lladd ar 31 Awst 1997 – rhyw dair wythnos cyn i bobol Cymru droi at y blychau pleidleisio ar 18 Medi 1997.

Ac yn yr wythnosau canlynol roedd mwy a mwy o wybodaeth yn cael ei ddatgelu am y digwyddiad ynghyd â threfniadau’r angladd ac ymateb y teulu Brenhinol.

“Yn gefnlen i hynny i gyd oedd baner Jac yr Undeb a’r Frenhiniaeth,” meddai Ron Davies gan esbonio ei fod am atgoffa pobol o “neges y ddraig goch” a hunaniaeth Gymreig.