Jean-Claude Juncker, ar y chwith, yn cyfarfod David Cameron cyn y refferendwm (Llun: PA)
Fe fydd pobol Prydain yn difaru pleidleisio o blaid Brexit, ac mi fydd yr Undeb Ewropeaidd yn symud ymlaen hebddyn nhw, yn ôl Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Wrth amlinellu cynlluniau am ddyfodol yr Undeb Ewropeaidd mewn araith ddydd Mercher (Medi 13), dywedodd Jean-Claude Juncker y bydd Brexit yn foment “trist iawn a thrasig”.

Er hynny, mynnodd bod Ewrop â “gwynt yn ei hwyliau unwaith eto” gan ychwanegu fod cynrychiolwyr gwledydd y byd yn heidio i Frwsel er mwyn sefydlu cytundebau masnach â’r undeb.

Yn ystod yr araith awr o hyd, gwnaeth Jean-Claude Juncker hefyd gyhoeddi cynlluniau i ddatblygu symudiad rhydd ar y cyfandir, ehangu’r defnydd o’r ewro ac i gynyddu nifer aelodau’r undeb.

Symud ymlaen

“Bydd hyn yn foment trist iawn a thrasig yn ein hanes,” meddai Jean-Claude Juncker. “Byddwn yn difaru hyn, a dw i’n credu y byddwch chi’n difaru hefyd, yn fuan.”

“Er hynny, rhaid parchu ewyllys y bobol Brydeinig. Ond, mi rydym ni’n mynd i ddatblygu. Byddwn yn symud ymlaen oherwydd nid Brexit yw popeth.”