Theresa May (Llun: PA Wire)
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi ymddiheuro am fethu ag ymateb i bryderon teuluoedd dau o bobol a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad brawychol ym Manceinion ar Fai 22.

Aeth saith wythnos heibio ar ôl llythyr gan Aelod Seneddol Llafur, Emma Lewell-Buck at Theresa May mewn perthynas â marwolaethau Chloe Rutherford, 17, a Liam Curry, 19 o South Shields.

Roedden nhw ymhlith y 22 o bobol a gafodd eu lladd ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande yn Arena Manceinion.  

Dywedodd Emma Lewell-Buck yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog heddiw fod Theresa May wedi anwybyddu teuluoedd y rhai a gafodd eu lladd, gan ddewis ymweld â rhai o’r bobol oedd wedi cael eu hanafu a’u teuluoedd. 

“Mae’r rhieni’n teimlo fel pe baen nhw wedi cael eu hanwybyddu gan y Prif Weinidog,” meddai.

“Ysgrifennais i ati saith wythnos yn ôl yn mynegi eu pryderon, ond mae hi wedi methu ag ymateb. Pryd fydd hi’n cydnabod eu colled mewn modd go iawn?”

Ymateb

Wrth ymateb yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Theresa May fod “mater pwysig” wedi cael ei godi, ond nad oedd hi’n ymwybodol o lythyr Emma Lewell-Buck.

Ychwanegodd y byddai’n ymchwilio ar unwaith i ddarganfod pam nad oedd y llythyr wedi cael ei ateb, gan ymddiheuro am yr oedi.

 Dywedodd ei bod hi’n cydnabod fod cynifer o fywydau wedi cael eu heffeithio mewn nifer o ffyrdd. Pwysleisiodd hi’r angen i roi’r adnoddau i’r awdurdodau allu atal ymosodiadau tebyg yn y dyfodol.