Llun: PA
Mae Aelod Senedd Ewropeaidd o Gymru wedi croesawu pleidlais o blaid confensiwn Ewropeaidd bydd yn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod ar lefel rhyngwladol.
Pleidleisiodd Senedd Ewrop o blaid dynodi eu cydsyniad â Chonfensiwn Istanbwl ddoe (dydd Mawrth, Medi 13).
Nod y confensiwn – sydd dan nawdd Cyngor Ewrop – yw sefydlu fframwaith cyfreithiol er mwyn atal y math yma o drais, cefnogi dioddefwyr ac i gosbi troseddwyr.
Yn ôl yr Aelod Senedd Plaid Cymru, Jill Evans, mi fydd y confensiwn yn gwneud “gwahaniaeth mawr i fywydau gymaint o fenywod a merched.”
Mae adroddiad gan Lywodraeth Cymru o 2014 yn awgrymu bod 11% o fenywod yn dioddef cam-drin domestig pob blwyddyn yng Nghymru ac mae trais rhywiol yn effeithio 3.2%.
Rhyddid rhag trais
“Mae gan fenywod yr hawl i fyw yn rhydd rhag trais a bygythiad trais,” meddai Jill Evans. “Mae Confensiwn Istanbul yn darparu fframwaith i godi safonau a gwella amddiffyniad.
“Bydd fframwaith cyfreithiol ar lefel Ewropeaidd fydd yn mynd i’r afael â thrais domestig yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau gymaint o fenywod a merched.
“Bydd hefyd yn danfon neges bositif i sefydliadau sydd yn ceisio atal trais. Galwaf ar Gynulliad Cymru i ddynodi eu cydsyniad â’r confensiwn – bydda’i hyn yn weithred symbolaidd.”