Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson yn hedfan i’r Caribî heddiw i ymweld â thiriogaethau Prydeinig sydd wedi cael eu dinistrio gan Gorwynt Irma.

Mae’n debyg y bydd yn treulio’r dyddiau nesaf yno i weld y cymorth sy’n cael ei roi gan dimau o’r Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cael ei beirniadu am beidio ymateb i’r dinistr yn ddigon cyflym ond mae Boris Johnson wedi wfftio’r feirniadaeth.