Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi dweud yn bendant ei fod eisiau i wledydd Prydain barhau i fasnachu o fewn y farchnad sengl yn Ewrop.

Ac mae Jeremy Corbyn hyd yn oed wedi gadael y drws yn agored i’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Fan lleia’ fe fyddai eisiau cytundeb masnachu sy’n cadw’r DU yn y farchnad sengl yn barhaol.

Mae’n newid mawr o’i safbwynt rai misoedd yn ôl ac yn dod y diwrnod cyn iddo ymweld â chynhadledd undebau’r TUC sydd hefyd wedi galw ar i wledydd Prydain aros yn rhan o’r farchnad sengl.

Cytundeb neu aelodaeth

Fe ddaeth datganiad Jeremy Corbyn mewn cyfweliad ar raglen y BBC World at One, pan ddywedodd ddwywaith bod rhaid i’r Deyrnas Unedig barhau i fasnachu yn y farchnad sengl.

Y ddau dro fe ddywedodd fod dewis rhwng gwneud hynny trwy gytundeb masnachu neu trwy fod yn aelod o’r farchnad, ond fyddai hynny ddim ond yn bosib, yn ei farn ef, trwy fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ei hun.

Dyma’i eiriau: “Dw i eisiau perthynas sy’n caniatáu i ni fasnachu o fewn y farchnad sengl, boed hynny’n aelodaeth ffurfiol, nad yw ond yn bosibl yn fy marn i os ydych yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, neu boed hynny trwy berthynas fasnachu sy’n cael ei chytuno, mae hynny’n agored i’w drafod.”

‘Rhaid cael perthynas’

Ddau ateb ynghynt, roedd wedi dweud geiriau tebyg iawn: “Mae’n rhaid bod yna berthynas fasnachu gydag Ewrop boed hynny yn ffurfiol o fewn y farchnad sengl neu boed hynny gyda chytundeb i fasnachu o fewn y farchnad sengl, mae hynny’n agored i drafod a negydu.”

Roedd hefyd wedi dweud bod rhaid parchu canlyniad refferendwm Ewrop – yr awgrym felly yw ei fod eisiau cytundeb masnachu, fel sydd gan wlad fel Norwy, ond fe fyddai hynny’n golygu derbyn llawer o reolau Ewrop, gan gynnwys symudiad pobol, a thalu am y fraint.

Heb barhau i fasnachu yn y farchnad sengl, meddai, fe fyddai “llawer o swyddi” mewn peryg yng ngwledydd Prydain.

Pleidlais

Fe fydd pleidlais ar y Mesur Diddymu yn cael ei chynnal heno ac mae Jeremy Corbyn wedi galw ar aelodau ei blaid i bleidleisio yn erbyn y mesur.

Ond byddai pleidleisio yn erbyn y Mesur  yn creu “anhrefn,” yn ôl David Davis, Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth Prydain.