Mae papurau newydd yn awgrymu bod yr Undeb Ewropeaidd am weld y Deyrnas Unedig ei hun yn delio â threfniadau’r ffin Wyddelig yn dilyn Brexit.

Heddiw, fe fydd Brwsel yn cyhoeddi casgliad o ddogfennau yn amlinellu ei safiad dros sawl mater yn gysylltiedig â Brexit.

 O ran y mynd i’r afael â’r mater o drefniadau teithio rhwng gogledd a de ynys Iwerddon wedi 2019 mae Brwsel yn mynnu mai cyfrifoldeb y Deyrnas Unedig fydd hi “o hyd.”

“Nid yw’r papur yma yn cynnig atebion i fater ffin Iwerddon,” meddai’r papurau, sydd wedi dod i law’r Financial Times.

“Mae’r cyfrifoldeb o gynnig atebion i’r herion sy’n wynebu ynys Iwerddon oherwydd ymadawiad y Deyrnas Unedig… yn nwylo’r Deyrnas Unedig o hyd.” 

Parmesan

Mae’r ddogfen hefyd yn nodi y dylai statws arbennig nwyddau gan gynnwys caws Parmesan a Champagne, gael eu diogelu gan gyfraith Brydeinig wedi Brexit.

Yn ôl The Financial Times ni ddylai statws y nwyddau yma “gael eu tanseilio gan ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.”