phrif fesur Brexit yn cael ei drafod yn San Steffan heddiw, mae Aelodau Seneddol o bob plaid wedi cael eu hannog i “gydweithio” gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd y ‘Mesur Ymadael’ – sydd hefyd yn cael ei alw y ‘Mesur Diddymu’ – yn dod â goruchafiaeth cyfraith yr Undeb Ewropeaidd i ben, ac yn troi cyfreithiau’r undeb yn rhai Prydeinig.

Mae Plaid Cymru, yr SNP, y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi nodi na ddylai’r ddeddfwriaeth gael ei phasio yn ei ffurf bresennol. Pryder nifer o wleidyddion yw y galla’i Llywodraeth y Deyrnas Unedig gipio pwerau rhag y Llywodraethau datganoledig trwy’r mesur hwn.

Er gwrthwynebiad y gwrthbleidiau a bwriad y Blaid Lafur i bleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth ddydd Llun, mae’n annhebygol y bydd cynlluniau’r Llywodraeth yn cael eu rhwystro.

“Gwireddu’r Brexit gorau”

“Mae’r Mesur Diddymu yn helpu cynnig y canlyniad yr oedd pobol Brydeinig am weld, trwy ddod â rôl yr Undeb Ewropeaidd o fewn cyfraith y Deyrnas Unedig i ben,” meddai’r Prif Weinidog, Theresa May.

“Dw i’n edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau Seneddol o bob ochr y Tŷ. Ond mi ddylai’r cyfraniad yna gyd-fynd ag un nod: sef i helpu gwireddu’r Brexit gorau i Brydain.”