Er pryderon am y cynllun, mae Ysgrifennydd Cymru wedi mynnu bod gwaith “ar droed” er mwyn trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd hyd at Gaerdydd.

Daeth sylw Alun Cairns yn ystod sesiwn cwestiynau Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin wrth gael ei herio gan yr Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, Christina Rees.

“A fedr yr Ysgrifennydd Gwladol addo y bydd y cynllun trydaneiddio yma yn digwydd, yn hytrach nag ymuno â’r rhestr o addewidion eraill sydd wedi’u torri gan ei Lywodraeth?” gofynnodd Christine Rees.

Ymatebodd Alun Cairns gan nodi bod “gwaith i drydaneiddio hyd at Gaerdydd ar droed,” ac y byddai cynlluniau’r Llywodraeth o “fudd mawr, nid yn unig i bobol Caerdydd, ond hefyd Abertawe”.

Trydanu

Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Ngorffennaf eu bod wedi cefnu ar gynlluniau i drydanueiddio’r llinell rhwng Abertawe a Chaerdydd.

Er hynny, mae disgwyl y bydd y rhwydwaith o gyfeiriad Lloegr hyd at Gaerdydd wedi cael ei drydaneddio erbyn diwedd 2018 neu ddechrau 2019.