Mae dogfen yn amlinellu cynigion i leihau’r nifer o fewnfudwyr sgiliau isel o Ewrop sydd yn dod i Brydain yn dilyn Brexit, wedi dod i law y wasg.

Yn ôl y ddogfen gan y Swyddfa Gartref,  bydd trefniadau mewnfudo newydd yn cael eu cyflwyno’n syth pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019. 

Mi fydd gadael yr undeb yn golygu y bydd “symudiad rhydd diamod” yn dod i ben ac mi fydd y Llywodraeth yn ymdrin â mewnfudo mewn modd fwy “detholiadol.”

Bydd modd i fewnfudwyr sgiliau isel aros yn y wlad am hyd at ddwy flynedd, tra bydd modd i weithwyr sgiliau uchel aros am hyd at bum mlynedd.

Papur y Guardian wnaeth cael gafael ar y ddogfen sydd yn 82 tudalen o hyd ac wedi ei labelu yn ddeunydd “Swyddogol Sensitif.”

Dim sylw

“Dydyn ni ddim yn rhoi sylw ar ddogfennau drafft sydd wedi eu rhyddhau i’r wasg,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Byddwn yn amlinellu ein cynigion cychwynnol ar gyfer sustem mewnfudo newydd – fydd yn galluogi ni i ail afael ar reolaeth dros ffiniau’r Deyrnas Unedig – yn hwyrach yn yr Hydref.”