Llun: PA
Mae’n debyg y bydd y Blaid Lafur yn pleidleisio yn erbyn y Mesur Diddymu Mawr, a hynny oherwydd y bydd yn caniatáu gweinidogion i “gipio grym” o’r Senedd er mwyn gwanhau hawliau gweithwyr a deddfau sy’n amddiffyn yr amgylchedd a defnyddwyr.

Mae’r Blaid Lafur yn mynnu ei bod yn “parchu’r”  penderfyniad democrataidd a wnaed yn y refferendwm y llynedd i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond maen nhw’n dweud na allen nhw bleidleisio dros fesur a fydd yn gadael i’r Llywodraeth Geidwadol newid deddfau “trwy’r drws cefn.”

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn yma sy’n ddiweddariad ar y trafodaethau sydd wedi’u cynnal rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn ystod yr haf.

Cafodd David Davis ei heclo gan ASau Llafur ar ôl iddo ddweud nad oedd unrhyw un wedi awgrymu y byddai’n “syml nac yn hawdd” i wneud cynnydd yn y trafodaethau ym Mrwsel.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Bexit bod y Deyrnas Unedig eisiau i’r trafodaethau symud ymlaen i ganolbwyntio ar y berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol erbyn mis Hydref  “os yn bosib”.

Ond dywedodd llefarydd Brexit yr wrthblaid Syr Keir Starmer bod “cynnydd araf yn y broses” yn “bryder sylweddol.”

Creu rhwyg yn y Blaid Geidwadol”

Mae’r Blaid Lafur yn gobeithio y bydd ei phenderfyniad i bleidleisio yn erbyn y mesur ar yr ail ddarlleniad –  sef cam cyntaf y mesur ar ei daith trwy Dŷ’r Cyffredin sy’n cychwyn ddydd Iau – yn arwain at rwyg yn y Blaid Geidwadol.

Er hynny, mae nifer o Geidwadwyr a oedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y refferendwm y llynedd yn mynnu na fyddan nhw’n pleidleisio yn erbyn y mesur yn yr ailddarlleniad – ond mae yna bosibilrwydd y byddan nhw’n anufuddhau yn ystod y camau nesaf.