Nicola Sturgeon Llun: Andrew Cowan/Scottish Parliament/PA Wire
Mae Llywodraeth yr Alban heddiw wedi cyhoeddi ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod gydag addewid i “ailffocysu ein hymdrechion” ac i “adnewyddu ein hagenda”.

Mewn araith o flaen y senedd yn Holyrood y prynhawn yma, fe wnaeth Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn ogystal â nodi rhai o gyraeddiadau’r Llywodraeth ers dod i rym 10 mlynedd yn ôl, edrych ymlaen gan ddweud bod y rhaglen newydd am “fuddsoddi yn ein dyfodol a llywio tynged yr Alban.”

Pwyslais ar addysg

Ymhlith y prif flaenoriaethau a nodwyd ganddi ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd gwella cyflwr addysg yn yr Alban gan gau’r bwlch cyrhaeddiad sy’n bodoli rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

Er mwyn gwneud hyn, gobaith y Llywodraeth fydd:

  • Sicrhau rhagor o gyllideb i awdurdodau lleol i fedru buddsoddi mewn cyflogi a hyfforddi staff mewn gofal plant.
  • Cyflwyno Deddf Addysg newydd a fydd yn diwygio’r ffordd y mae athrawon yn cael eu cyflogi a’u haddysgu drwy gydol eu gyrfaoedd.
  • Diwygio’r cymorth ariannol y mae myfyrwyr prifysgol yn ei dderbyn.
  • A sicrhau bod nifer y prentisiaethau modern sydd ar gael yn cynyddu i 30,000 erbyn y flwyddyn darged 2020.

Diwygiadau mewn sectorau eraill

Nododd hefyd fod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno mesurau a fydd yn diwygio rhannau o’r economi, y sector amgylchedd, ynghyd ac iechyd a gofal.