Mae Anas Sarwar wedi cyhoeddi ei fod yn ymgeisio i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur yn yr Alban gan roi addewid i “uno” ei blaid.

Fe gollodd y cyn-Aelod Seneddol ei sedd yn 2015 ar ôl i’r Blaid Lafur yn yr Alban golli bron pob un o’i seddi yn San Steffan.

Anas Sarwar yw’r ail ymgeisydd i gyhoeddi ei fod yn ymgeisio i olynu Kezia Dugdale a oedd wedi camu o’i swydd yn annisgwyl wythnos ddiwethaf. Mae’r blaid yn yr Alban bellach yn chwilio am ei phedwerydd arweinydd ers y refferendwm ar annibyniaeth yn 2014.

Mae Richard Leonard, a gafodd ei ethol i Holyrood yn 2016, eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn ymgeisio.

Fe enillodd y blaid saith sedd yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin.

Dywedodd Anas Sarwar, a ddaeth yn Aelod Seneddol yr Alban y llynedd, ei fod eisiau uno’r blaid: “Nid yw pobl yr Alban angen Plaid Lafur sy’n brwydro ei hun.”