Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn gobeithio atal gwrthryfel gan feinciau cefn ei phlaid wrth i Aelodau Seneddol bleidleisio am y tro cyntaf ar ddeddfwriaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae pryderon y gallai eu hymdrechion i danseilio’r Mesur Diddymu Mawr arwain at roi allweddi rhif 10 Downing Street i Jeremy Corbyn.

Dywedodd Theresa May fod y ddeddfwriaeth yn cynnig sefydlogrwydd cyfreithiol i bobol a busnesau, gan fynnu y byddai’r Senedd yn craffu arni.

Ond yn ôl Ceidwadwyr oedd wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, fe allai ymdrechion y Prif Weinidog i ennyn cefnogaeth y meinciau cefn niweidio ei harweinyddiaeth ymhellach.

Dychwelyd i’r Senedd

Y Mesur Diddymu Mawr fydd un o drafodaethau cyntaf Aelodau Seneddol ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’r Senedd ar ôl yr haf.

Bydd dadl yn cael ei chynnal yn San Steffan ddydd Iau.

Dywedodd Theresa May ei bod hi a’i llywodraeth eisiau cyflwyno “Brexit llwyddiannus”, ac yn dymuno cael “perthynas ddofn ac arbennig” ar ôl tynnu’n ôl o’r Undeb Ewropeaidd.

Hwn, meddai, yw’r “cam pwysicaf” er mwyn atal ansefydlogrwydd i bobol a busnesau.

Rhybudd

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green wedi rhybuddio’r Ceidwadwyr i beidio â cheisio atal y ddeddfwriaeth.

Dywedodd mai “swydd pob Aelod Seneddol… yw parchu ewyllys y bobol a chael y cytundeb gorau posib i Brydain”.

Ychwanegodd: “Dydy’r un Ceidwadwr eisiau cytundeb Brexit gwael, na gwneud unrhyw beth sy’n cynyddu’r bygythiad o gael llywodraeth Corbyn.”

Ymateb chwyrn

Fe fu ymateb chwyrn i eiriau Damian Green gan y cyn-weinidog Anna Soubry.

Dywedodd hi wrth yr Observer fod yr awgrym fod gwrthod y ddeddfwriaeth yn dangos cefnogaeth i Jeremy Corbyn yn “warthus” ac yn “cyfateb i roi crasfa i ddemocratiaeth”.

Gwadu adroddiadau

Yn y cyfamser, mae llefarydd ar ran Theresa May wedi gwadu adroddiadau’r Sunday Times ei bod hi’n paratoi i roi sêl bendith i gytundeb gwerth hyd at £50 biliwn i adael yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Cynhadledd Hydref y blaid ym mis Hydref.

Roedd y setliad ariannol yn brif destun ffrae rhwng Ysgrifennydd Brexit David Davis a Michel Barnier o’r Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar.

Yn ôl y papur newydd, gallai Prydain dalu rhwng £7 biliwn ac £17 biliwn i’r Undeb Ewropeaidd am dair blynedd ar ôl gadael.