Mae pedwar o’r rheiny oedd yn bwriadu sefyll am arweinyddiaeth plaid UKIP, wedi dod at ei gilydd.

Bwriad y criw sy’n sefyll dan yr enw ‘UKIP United’ ydi gweld Jane Collins yn y brif swydd, ond gyda swyddi allweddol ar gyfer ei chyn-wrthwynebwyr hefyd.

Fe fyddai Aelod o Senedd Ewrop dros yr Alban, David Coburn, yn dod yn ddirprwy arweinydd dan y drefn honno; gyda Ben Walker yn mynd  y blaid, a Marion Mason hefyd yn gefnogol i’r cywaith.

Yn wreiddiol, roedd 11 o ymgeiswyr wedi bwriadu sefyll i olynu Paul Nuttall yn arweinydd UKIP. Ond roedd y criw ‘UKIP United’ yn poeni y byddai hynny’n hollti’r bleidlais ac yn gadael y drws yn agored i Anne Marie Waters, un o gyfarwyddwyr y grwp ‘Sharia Watch’.

Yn y gorffennol, mae Anne Marie Waters wedi galw crefydd Islam yn “ddieflig”, ac mae rhai aelodau UKIP wedi bygwth gadael y blaid petai hi’n dod yn arweinydd.

Mae Nigel Farage, sylfaenydd UKIP, hefyd wedi rhybuddio y bydd hi “ar ben” ar y blaid pe bai hi’n dod yn blaid gwrth-Islam.

Ymhlith yr ymgeiswyr eraill sydd am sefyll i fod yn arweinydd UKIP, y mae’r dirprwy arweinydd presennol, Peter Whittle, ynghyd ag Aelod Cynulliad Llundain, David Kurten; David Allen, Henry Bolton, Aidan Powlesland a John Rees-Evans.

Fe fydd enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod cynhadledd UKIP yn Torquay ar Fedi 29.