Arlene Foster (llun o'i gwefan)
Mae arweinydd y blaid unolaethol fwya’ yng Ngogledd Iwerddon wedi cynnig deddf i warchod yr iaith Wyddeleg mewn ymgais i ailsefydlu’r Llywodraeth yn y dalaith.

Fe ddywedodd Arlene Foster y byddai’n cytuno ar ddeddf o’r fath ar yr amod ei bod yn rhan o drefniant ehangach a fyddai’n cynnwys diwylliant y gymuned Brotestanaidd ‘Ulster-Scots’ hefyd.

Mae’r brif blaid genedlaetholgar, Sinn Fein, wedi mynnu eu bod nhwthau o blaid ailsefydlu’r Llywodraeth yn Belffast ond bod rhaid i Ogledd Iwerddon gael yr un hawliau iaith a chyfraith â gweddill gwledydd Prydain.

Maen nhw wedi gwrthod y cynigion diweddara’, gan ddweud bod angen mynd llawer pellach – dyw Arlene Foster ddim yn gwrando, medden nhw.

Iaith – un o’r dadleuon

Dadl tros hawliau iaith siaradwyr Gwyddeleg oedd un o’r dadleuon a arweiniodd at ddiddymu senedd Stormont y llynedd.

Ers hynny, mae Arlene Foster wedi cwrdd ag ymgyrchwyr iaith ac mae wedi gwneud ei chynigion yn union cyn i drafodaethau ailddechrau ddydd Llun rhwng ei phlaid a Sinn Fein.

“Rydyn ni’n cytuno i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i’r afael â materion diwylliant ac iaith yng Ngogledd Iwerddon, gyda therfyn amser ar hynny.

“Does gyda ni ddim i’w ofni oddi wrth yr iaith Wyddeleg… ar y llaw arall, wnawn ni ddim ildio i ofynion unochrog.”

Sinn Fein – angen cydnabod hawliau

Yn ôl arweinydd newydd Sinn Fein yn y Gogledd, Michelle O’Neill, maen nhwthau wedi ymrwymo i ailsefydlu’r Llywodraeth a bod plaid Arlene Foster, y DUP, yn gwybod yn iawn beth oedd ei angen.

“Rhaid i ni weld cytundebau’n cael eu gweithredu a diwedd ar y ffordd y mae hawlaiu sydd ar gael i ddinasyddion pob man arall ar yr ynysoedd hyn yn cael eu gwadu – ynglŷn ag iaith, priodas a’r gallu i gael achosion mewn llysoedd crwner.”