David Davis - 'optimydd penderfynol' (Robert Sharp CCA 2.0)
Mae’r cythrwfl yn parhau tros y trafodaethau Brexit wrth i un gweinidog Prydeinig ddweud ei fod yn obeithiol tra bod un arall yn cyhuddo’r Undeb Ewropeaidd o dactegau bygythiol.

Fe fydd prif drafodwr Llywodraeth Prydain, David Davis, yn dweud mewn araith yn yr Unol Daleithiau heddiw ei fod yn parhau’n obeithiol.

Ond mae’r Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol, Liam Fox, yn dweud na ddylai’r Undeb orfodi Llywodraeth Prydain i dalu’n ddrud am adael, cyn cael trafod cytundeb masnach.

‘Rhwystredigaeth’

Hyn i gyd yn dilyn datganiad gan brif drafodwr yr undeb ddoe – fe ddywedodd Michel Barnier fod yna rwystredigaeth mawr am nad oedd cynigion Llywodraeth Prydain yn ddigon da.

Fe fydd David Davis yn dweud: “Dw i’n optimydd penderfynol. Dw i’n credu’n sylfaenol bod bargen dda er budd yt Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd a’r holl fyd datblygedig.”

Yn y cyfamser, mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Tom Watson, wedi awgrymu y gallai gwledydd Prydain aros yn barhaol yn yr Undeb Tollau a’r farchnad sengl – arwydd arall o newid agwedd gan y blaid ac yn groes i ddatganiadau cynharach gan yr arweinydd, Jeremy Corbyn.