Mae dwy blaid yn yr Almaen wedi dweud y byddai croeso i Alban annibynnol ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl gwefan newyddion iNews, mae maniffesto’r Blaid Ddemocrataidd Rydd [FDP] a’r Gwyrddion yn dweud y dylai’r drws yn ôl i mewn aros ar agor pe bai’r Alban yn torri i ffwrdd o’r Deyrnas Unedig.

Mae’n debygol y gallai un o’r ddwy blaid fynd i mewn i glymblaid gyda’r Canghellor Angela Merkel yn dilyn yr etholiad yno sy’n digwydd ar Fedi 24.

Ym maniffesto’r ddwy blaid, mae sôn am drin yr Alban a Gogledd Iwerddon “yn deg” gan eu bod wedi pleidleisio yn erbyn Brexit.

“Rydym yn croesawu ac yn deall dymuniadau’r Albanwyr a phobol Gogledd Iwerddon, ynghyd â’r nifer fawr o bobol yn y Deyrnas Unedig sydd am aros yn yr UE,” meddai’r Gwyrddion.

“Rydym yn glir bod ein drws yn parhau ar agor.”

Yn dilyn yr etholiad cyffredinol, fe wnaeth Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ohirio unrhyw bleidlais ar annibyniaeth i’r wlad.