Theresa May (Llun: Dominic Lipinski/PA Wire)
Mae datganiad Theresa May y bydd hi’n arwain y Ceidwadwyr i’r etholiad cyffredinol nesa’ wedi cael ymateb cymysg gan aelodau profiadol ei phlaid ei hun.

Yn dilyn adroddiadau ei bod yn paratoi i gamu o’r neilltu yn 2019 wedi i’r broses Brexit ddod i ben, mae’r Prif Weinidog yn mynnu na fydd hi’n rhoi’r gorau iddi.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi dweud ei fod yn rhoi ei gefnogaeth lawn i Theresa May ond dywed cyn aelod o’r Cabinet, Nicky Morgan, y byddai’n “anodd” iddi arwain y blaid ar gyfer yr etholiad nesa’ yn 2022.

A dywed cyn cadeirydd y blaid, Grant Shapps, ei fod yn “rhy gynnar” i’r Prif Weinidog fod yn siarad am fynd “ymlaen ac ymlaen” fel Margaret Thatcher.

Newid tôn

Mewn cyfres o gyfweliadau yn Siapan, dywedodd Theresa May ei bod “yn hyn ar gyfer yr hirdymor”.

Yn dilyn etholiad trychinebus i’r Ceidwadwyr ym mis Mehefin, dywedodd y gwleidydd wrth aelodau ei meinciau cefn y byddai’n parhau mor hir ag y mae’r blaid am iddi wneud.

Ond wrth i Theresa May ymweld â Phrif Weinidog Siapan, Shinzo Abe, roedd ei thôn yn fwy penderfynol.

Dywed Grant Shapps y dylai’r Prif Weinidog gael ei barnu ar ei pherfformiad yn y trafodaethau Brexit ond ei fod yn cydnabod nad oedd neb am weld Theresa May yn wynebu Jeremy Corbyn mewn etholiad eto.