Protestwyr yn erbyn ffracio (Llun: PA)
Mae trigolion yn Swydd Gaerhirfryn wedi galw ar y Llys Apêl i wyrdroi penderfyniad i ganiatáu i gwmni Cuadrilla ffracio yno.
Collodd trigolion lleol ac ymgyrchwyr amgylcheddol eu hachos yn yr Uchel Lys ym mis Ebrill, ar ôl iddyn nhw ddadlau nad oedd y penderfyniad i ganiatáu ffracio yn Fylde yn gyfreithlon nac yn deg.
Cafodd cais cynllunio Cuadrilla ei wrthod gan Gyngor Sir Gaerhirfryn yn 2015, ond cafodd y penderfyniad ei wyrdroi yn dilyn apêl ac ymchwiliad cynllunio.
Rhoddodd Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, Sajid Javid sêl bendith i’r cynlluniau ym mis Hydref.
Ond dadleuodd ymgyrchwyr yn y Llys Apêl heddiw ei fod e wedi camddeall agweddau allweddol ar bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol.
Pam apelio?
Yn ôl cyfreithwyr ar ran y rhai sydd wedi cyflwyno apêl, mae ganddyn nhw sawl rheswm tros wneud hynny.
Camddealltwriaeth ar ran Sajid Javid ac archwilydd yw’r rheswm cyntaf, a hynny am eu bod nhw wedi camddeall y niwed y byddai’r cynllun yn ei achosi i’r amgylchedd.
Maen nhw hefyd yn dadlau bod y ddau wedi cyflwyno Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol mewn modd anghywir, sy’n golygu na chafodd gwrandawiad teg ei gynnal yn ystod yr ymchwiliad cynllunio.
Maen nhw hefyd wedi cael eu cyhuddo o ddefnyddio prawf gwahanol i’r arfer er mwyn asesu effaith y cynllun ar drigolion lleol.
Yn ôl Sajid Javid, does dim sail i’r un o ddadleuon yr ymgyrchwyr.
‘Anghyfleustra’
Yn ôl llefarydd ar ran yr ymgyrchwyr, mae’r cynllun ffracio wedi achosi “anghyfleustra” i drigolion lleol.
“Maen nhw wedi dioddef straen o ganlyniad i’r broses ac ers i’r gwaith ddechrau ar y safle, fe fu anghyfleustra yn eu bywydau bob dydd oherwydd rhesi hir o gerbydau nwyddau trwm, presenoldeb mawr yr heddlu a nifer o ffyrdd yn cael eu cau.”
Mae Llywodraeth Prydain wedi cael eu cyhuddo o fethu ag ystyried effaith y cynllun ar iechyd trigolion lleol.