Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae Theresa May wedi’i “chythruddo” gan brawf taflegryn diweddaraf Gogledd Corea, ond nid oes bwriad ganddi i newid ei chynlluniau i deithio i Siapan, meddai Downing Street.
Mae’r Prif Weinidog yn teithio i Siapan ar gyfer trafodaethau gyda Phrif Weinidog y wlad, Shinzo Abe wrth i’r tensiynau gynyddu yn dilyn lansio taflegryn o Pyongyang at Siapan.
Fe deithiodd y taflegryn dros ynys Hokkaido cyn syrthio i ogledd y Môr Tawel.
Dywedodd Shinzo Abe bod y taflegryn yn “fygythiad difrifol” i’r wlad.
Mae Theresa May wedi disgrifio’r digwyddiad fel gweithred “bryfoclyd.”
Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 bod swyddogion o’r Deyrnas Unedig a Siapan wedi bod mewn “cysylltiad parhaol” a’i gilydd cyn yr ymweliad.
Ychwanegodd y llefarydd bod y Prif Weinidog wedi condemnio’r prawf diweddaraf yn chwyrn a bod rhaglen niwclear a thaflegrau Kim Jong Un eisoes ar yr agenda yn ystod y trafodaethau yn Tokyo.
Fe fydd cyfarfod brys o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn ystyried sancsiynau newydd posib yn erbyn arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un.