Llun: PA
Mae trafodaethau Brexit yn parhau ym Mrwsel ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd ddweud wrth y Deyrnas Unedig bod angen dechrau cymryd y trafodaethau o ddifrif.

Yn y gyfres ddiweddaraf o drafodaethau i geisio dod i gytundeb ynglŷn â’r telerau dros adael yr Undeb, mae prif negodwr yr Undeb Ewropeaidd Michel Barnier wedi cyhuddo Prydain o amwysedd ynglŷn â rhai o’r prif faterion ac yn mynnu rhagor o eglurder gan Lundain.

Dywedodd Michel Barnier ei fod yn “bryderus” a bod yn “rhaid i ni ddechrau trafod o ddifrif.”

“Mae angen i ni gael papurau o’r DU sy’n glir er mwyn i ni allu cael trafodaethau adeiladol,” meddai.

Ond mae’r Ysgrifennydd Brexit David Davis wedi wfftio ei sylwadau gan ddweud bod manylion clir iawn ym mhapurau’r DU sy’n amlinellu eu gweledigaeth.

Mae’r tensiwn rhwng Llundain a Brwsel yn ymwneud yn bennaf a maint y setliad ariannol y bydd yn rhaid i’r DU ei dalu i adael yr Undeb, gyda ffynonellau yn yr UE yn amcangyfrif y bydd rhwng £50 biliwn a £80 biliwn.