Protestiadau Cairo, Awst 2013
Fe fydd yn rhaid i fab arweinydd Mwslimaidd o Ddulyn aros tair wythnos arall cyn cael clywed beth fydd ei hynt gan lys yn yr Aifft.

Fe fydd y Gwyddel, Ibrahim Halawa, ei gymryd i’r carchar yn 2013 tros brotestiadau yn ymwneud â’r Frawdoliaeth Fwslimaidd yn Cairo.

Roedd y gwr 21 oed yn disgwyl clywed heddiw beth fyddai ei dynged, ond mae ei gynrychiolwyr wedi cyhoeddi na fydd ei ddedfryd yn cael ei rhoi tan Fedi 18.

Mae Ibrahim Halawa yn fab i’r clerigwr Mwslimaidd amlwg, Sheikh Hussein Halawa, ac fe gafodd ei garchau wedi iddo gael ei ddal ger mosg ar gyrion Sgwar Ramses yn ninas Cairo yn ystod y protestiadau i gael gwared â’r arlywydd Mohamed Morsi yn Awst 2013.