Y Ceidwadwyr a gafodd y swm mwyaf o roddion ariannol yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol eleni, o gymharu â’r pleidiau eraill, gyda bron i £25m yn dod i goffrau’r blaid rhwng dechrau mis Ebrill a diwedd mis Mehefin.

Yn ôl ffigurau’r Comisiwn Etholiadol, derbyniodd y blaid £24,840,627 mewn rhoddion yn ystod y cyfnod hwnnw pan gyhoeddodd Theresa May y bydd etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Derbyniodd y Blaid Lafur £9,492,519 mewn rhoddion yn ystod yr un cyfnod, a’r Democratiaid Rhyddfrydol £4,358,410.

Y pleidiau llai

O’r 11 plaid wleidyddol ar restr y Comisiwn Etholiadol, mae cyfanswm rhoddion Plaid Cymru ymhell ar y gwaelod, gyda £5,300 yn dod i’r blaid yn ystod cyfnod yr etholiad.

Cafodd yr SNP llwer fwy o arian, sef £596,000 ac fe gafodd hyd yn oed y BNP, plaid sydd wedi bron a diflannu o’r tirlun gwleidyddol,£100,000.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos fod UKIP wedi derbyn £156,455, y Blaid Werdd wedi cael £176,363 a’r Blaid dros Gydraddoldeb Menywod wedi cael £282,931.

Dyma’r rhestr yn llawn…

  •  Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol – £24,840,627
  • Llafur – £9,492,519
  • Democratiaid Rhyddfrydol – £4,358,410
  • SNP – £596,000
  • Y Blaid dros Gydraddoldeb Menywod – £282,931
  • Y Blaid Werdd – £176,363
  • UKIP – £156,455
  • Y Blaid Gydweithredol – £150,980
  • BNP – £100,000
  • Plaid Sosialaidd Prydain Fawr – £26,333
  • Plaid Cymru – £5,300