Mae cyfanswm dyledion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon wedi codi i £22.8bn.

Yn ôl Swyddfa’r Ystadegau Gwladol (ONS), mae benthyciadau’r sector cyhoeddus, sydd ddim yn cynnwys banciau, wedi codi £1.9bn rhwng Ebrill a Gorffennaf.

Daw hyn er gwaethaf cynnydd mewn derbyniadau treth ym mis Gorffennaf a arweiniodd at weddillion o £200m fis diwethaf. Mae mis Gorffennaf yn dueddol o fod yn un da ym myd arian wrth i bobol hunangyflogedig dalu eu treth incwmc ac wrth i fusnesau roi trefn ar eu biliau treth gorfforaethol.

Yn ôl yr ONS, er bod cynnydd yng ngweddillion mis Gorffennaf am y tro cyntaf ers 2002, nid yw hynny’n arwydd o economi “gadarn”.

“Dydi’r Canghellor ddim yn edrych fel bod ganddo lawer o le i chwarae yng nghyllideb mis Tachwedd,” meddai llefarydd ar ran yr ONS.