David Davis, Ysgrifennydd Brexit (Robert Sharp CCA 2.0)
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi amlinellu cynlluniau er mwyn sicrhau bod masnach nwyddau a gwasanaethau ag Ewrop yn medru parhau yn dilyn Brexit.

Mae papur sydd wedi ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yn galw bod nwyddau sydd eisoes ar y farchnad ym Mhrydain ac Ewrop yn parhau ar werth heb rwystrau wedi Brexit.

Mewn ail bapur, mae’r gweinidog yn argymell cytundeb fyddai’n sicrhau bod dogfennau cyfrinachol mae Prydain yn rhannu ag Ewrop, yn parhau yn gyfrinachol.

Dros y diwrnodau nesaf bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi papurau yn ymwneud ag ystod o faterion . Daw’r cyhoeddiadau wythnos cyn y drydedd rownd o drafodaethau Brexit ym Mrwsel.

“Cysylltiad cryf”

“Bydd y papurau yma yn helpu rhoi sicrwydd a hyder yn statws economaidd y Deyrnas Unedig, i fusnesau a chwsmeriaid wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai David Davis.

“Maen nhw hefyd yn dangos, wrth i ni agosáu at drydedd rownd y trafodaethau, ei fod yn glir bod cysylltiad cryf rhwng ein gwahaniad o’r Undeb Ewropeaidd a’n perthynas yn y dyfodol.”