Nigel Evans, Aelod Seneddol, Ribble Valley (Llun: PA)
Mae Cymru sy’n Aelod Seneddol Ceidwadol yn Lloegr wedi rhybuddio fod angen parhau i gynnal trafodaethau masnach yn ystod unrhyw drefniadau dros dro gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ol Nigel Evans AS, “mae’r gallu i drafod ein cytundebau masnach yn ystod y cytundeb trawsnewidiol yn hynod bwysig”.  

Mae disgwyl i allu’r Deyrnas Unedig i wneud cytundebau masnach newydd yn ystod y cyfnod trawsnewid fod yn bwnc llosg.

Ar hyn o bryd, nid oes hawl gan aelodau o’r undeb masnach gynnal trafodaethau ar gytundebau masnach y tu allan i’r bloc.

Ychwanegodd bod angen clustnodi dyddiad penodol pan fydd Prydain yn gadael y cyfnod trawsnewid.

‘Cyfnod trawsnewid’

Daw sylwadau Nigel Evans wrth i David Davis, Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth Prydain, gyhoeddi cynigion yn cynnwys cynllun am gyfnod trawsnewid ar gyfer busnesau’r Deyrnas Unedig a gweddill yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Yn rhan o hyn, mae wedi gwrthod cadarnhau a fydd yn rhaid i Brydain wneud taliadau i’r Undeb Ewropeaidd am drefniadau masnach dros dro gyda’r undeb ar ôl gadael.

Er hyn, awgrymodd y gallai’r trefniadau ganiatáu i Brydain gynnal trafodaethau masnach â gwledydd eraill yn ystod y cyfnod hwn.