Derry, Gogledd Iwerddon
Mae ymladd wedi bod yn ninas Derry, Gogledd Iwerddon, nos Lun, wedi i bobol oedd yn adeiladu coelcerth gael eu cyhuddo o ymosod ar yr heddlu ac aelodau o’r cyhoedd.

Yn ol yr heddlu, fe ddechreuodd y rheiny oedd wedi ymgasglu ar safle dadleuol yn ardal Bogside daflu cerrig at blismyn a phobol leol, cyn dechrau eu pledu wedyn â bomiau petrol.

Chafodd neb ei anafu.

Fe fydd y goelcerth yn cael ei thanio heno (nos Fawrth, Awst 15), yn unol â’r traddodiad o nodi dydd gwyl Catholig sy’n dathlu esgyniad y Fair Forwyn i’r nefoedd. Yn y blynyddoedd diweddar, mae’r tân wedi bod yn destun gwrthdaro hefyd.

Mae cynrychiolwyr Unoliaethwyr lleol wedi mynegi pryder y gallai symbolau unoliaethol, fel baner yr Undeb, gael eu llosgi ar y goelcerth heno.