Theresa May
Mae disgwyl i Theresa May ail-afael yn nhrafodaethau Brexit yr wythnos hon wedi tair wythnos o wyliau yn yr Eidal.

Daw hyn wrth i gyfres o bapurau  gael eu cyhoeddi ar safbwynt y Deyrnas Unedig ar Brexit – gydag un yn rhoi sylw i’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon â’r Weriniaeth.

Yn ôl adroddiadau, fe allai eu cynnig gynnwys symudiad rhydd i ddinasyddion Iwerddon i mewn ag allan o’r Deyrnas Unedig ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019.

‘Barod am y gwaith’

Dywedodd David Davis, yr Ysgrifennydd Brexit, fod angen “parhau â’r trafodaethau” i sicrhau “ein bod yn cael cytundeb cryf ar gyfer y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd”.

Ychwanegodd ei fod am ddangos fod y Deyrnas Unedig yn “barod am y gwaith”.

Ond daw hyn ymysg cwynion o Frwsel am ddiffyg eglurdeb y Deyrnas Unedig gyda’r prif drafodwr, Michel Barnier, yn awgrymu nad ydy’r gweinidogion wedi gwneud “llawer o gynnydd” ar rai o’r prif faterion.

Ym mis Hydref fe fydd disgwyl i Brydain gyflwyno eu trefniadau masnach ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd a hynny yn ystod cyfarfod o’r Cyngor Ewropeaidd.

‘Cyfnod o drawsnewid’

Dros y penwythnos, fe wnaeth y Canghellor Philip Hammond, sydd am weld Brexit meddal, arwyddo datganiad ar y cyd â Liam Fox, Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, sy’n ffafrio Brexit caletach.

Mae’r ddau wedi cytuno fod angen “cyfnod o drawsnewid” ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.