David Miliband (llun o wefan wikipedia)
Mae’r cyn-ysgrifennydd tramor David Miliband yn galw am ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywed y dylai’r bobl gael dewis clir rhwng aros yn yr Undeb a pha bynnag gytundeb y bydd Prydain yn llwyddo i’w gael gyda gwledydd eraill Ewrop.

Mae’n rhybuddio fod Brexit yn ‘weithred ddigyffelyb o hunan-niweidio economaidd’ ac yn galw ar wleidyddion o bob plaid i geisio gwrthsefyll canlyniadau gwaethaf y bleidlais.

Ers iddo golli’r ras am arweinyddiaeth y blaid Lafur i’w frawd Ed yn 2010, mae David Miliband yn arwain elusen ryngwladol yn Efrog Newydd.

“Ym Mhrydain, mae penderfyniad refferendwm yr UE wedi cael ei weithredu’n gwbl ddi-hid ac mewn anhrefn lwyr,” meddai mewn erthygl ym mhapur newydd The Observer.

“Mae ein safbwyntiau ar gyfer y trafodaethau yn ddirgelwch – hyd yn oed ar fewnfudo.”

Rhybuddio Theresa May

Yn y cyfamser, mae cyn-weinidog Ceidwadol wedi rhybuddio Theresa May fod angen iddi wrthsefyll cefnogwyr Brexit caled yn ei phlaid ei hun os yw hi am aros yn Brif Weinidog.

Mewn erthygl yn The Mail on Sunday, mae Anna Soubry yn awgrymu y byddai’n barod i ymuno â gwleidyddion o bleidiau eraill i rwystro toriad llwyr â’r Undeb Ewropeaidd.

“Nid yw’n amhosibl gweld fy hun yn ymuno â  phobl o’r un anian i achub ein gwlad rhag tynged truenus o’r fath,” meddai.

“Fe fyddwn i’n bradychu fy egwyddorion pe na bawn yn ei gwneud hi’n glir bod yn rhaid i fuddiannau’r wlad bob amser ddod o flaen buddiannau plaid.”